Mi ymddiriedaf yn ei Air

(Gwreiddyn y mater)
1,(2),3,4.
Mi ymddiriedaf yn ei Air,
  Er cymmaint yw fy mai;
Ac fe derfynwyd dydd ac awr,
  Pan gaffwy'm gwir ryddhau.

O gwna fi'n ffyddlon yma o hyd,
  A'm lefel at dy glod;
Ac na fo pleser fyn'd a mryd,
  A welwyd is y rhod.

N'ad fi foddloni ar rhyw rith
  O grefydd heb ei grym:
Ond gwir adnabod Iesu Grist
  Yn fywyd anwyl im'.

Plant ydym eto dan ein hoed,
  Yn dysgwyl am y 'stâd;
Mae'r etifeddiaeth ini'n dod,
  Wrth Destament ein Tad.

- - - - -
(Golwg ar ddyrchafiad Crist)
Mi ymddiriedaf yn ei air
  Er cymmaint yw fy mai,
Fe benderfynwyd dydd ac awr
  Im' gael fy llwyr ryddhau.

Esgyn a wnaeth i entrych ne'
  I eiriol dros y gwan,
Fy enaid innau a dynn efe
  I'w fynwes yn y man.

Mae'n eistedd ar
    ddeheulaw'r Tad,
  Ar orsedd fawr y nef;
Ac y mae'r cyfan sydd mewn bod
  Dan ei awdurdod ef.

Gadawodd y llieiniau'n ol,
  Yn arwydd llawn i ni,
Na raid wrth wisgoedd
    o un rhyw
  Yn y baradwys fry.

Fe sai' gyfammod sicr ef
  Yn gadarn yn ei rym,
Pan f'o pob cysur îs y ne'
  Wedi diflannu'n ddim.

O gwna ni'n ffyddlon yma o hyd,
  A'n lefel at dy glod;
Ac na f'o pleser
    fyn'd â'n bryd,
  A welwyd îs y rhod.

Dod yn ein genau fawl ar g'oedd,
  And in our yspryd dân;
Ac yn mheryglon anial dir,
  Erfyniau pur a chân.
William Williams 1717-91

Tôn [MC 8686]: Suffolk (<1829)

gwelir:
  Esgyn a wnaeth i entrych nef
  Goleuni ac anfeidrol rym
  Mae brodyr i mi aeth y'mlaen
  Mae yn yr Iesu drysor mwy
  Mi dafia'm baich i lawr yn llwyr
  N'âd fi foddloni ar ryw rith
  Plant ydym eto dan ein hoed
  'Rwy'n edrych dros y bryniau pell
  Tystiolaeth gadarn Brenin nef

(The root of the matter)
 
I will trust in his Word,
  Despite how great is my fault;
And the day and the hour are determined,
  When I shall get my true setting free.

Oh, make me faithful here always,
  And my aim at thy praise;
And let no pleasure take my attention,
  Which is seen below the sky.

Do not let me be enjoy any kind of thing
  From belief without its force:
But truly to know Jesus Christ
  As a dear life to me.

Children are we still under age,
  Waiting for the estate;
The inheritance to us is coming,
  According to the Testament of our Father.

- - - - -
(Gazing on the exaltation of Christ)
I will trust in his word
  Despite how great is my fault,
Decided have been the day and hour
  For me to get my total freeing.

Ascend he has to the vault of heaven
  To intercede for the weak,
My own soul he shall draw
  To his breast soon.

He is sitting on the right
    hand of the Father,
  On the great throne of heaven;
And the whole of what is in being is
  Under His authority.

He left the linen cloths behind,
  As a full sign to us,
That there is no need of
    clothing of any kind
  In the paradise above.

His sure covenant shall stand
  Firm in its force,
When every comfort under heaven
  Has disappeared to nothing.

Oh, make us faithful here always,
  And our aim at thy praise;
And may no pleasure take
    away our attention,
  That is seen under the sky.

May public praise come to be in our mouths,
  And in our spirit fire;
And in the perils of a desert land,
  Pure petition and song.
tr. 2014 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~